Clwb Gwyliau
Mae Clwb Gwyliau Mes Bach - Little Acorns yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn yn ystod y gwyliau ysgol arferol. Rydym ar agor adeg yr holl wyliau hanner tymor, gwyliau Pasg a Haf, serch hynny nid ydym ar agor dros wyliau’r Nadolig na gwyliau Banc. Gwnawn ein gorau hefyd i ddarparu Clwb Gwyliau ar ddyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd. Rydym yn eich annog i archebu lle yn gynnar ar gyfer y dyddiau hyfforddiant hyn gan fod galw mawr am y gwasanaeth hwn.
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan ein staff hyfforddedig a medrus yn eu gwaith.
Cynigiant awyrgylch hamddenol a chyfeillgar ar gyfer y plant. Yn ystod y clwb gwyliau, mae Mes Bach- Little Acorns yn cynnig awyrgylch strwythuredig a phleserus i’r plant. Mae gan bob diwrnod ei weithgaredd penodol. Bydd y gweithgareddau hyn yn amrywio gan gynnwys teithiau i’r sinema, mannau o harddwch lleol, teithiau cerdded, crochenwaith, printio sgrin, coginio a llawer mwy.
Mae staff y clwb gwyliau yn gweithio’n galed i greu awyrgylch tebyg i gartref ar gyfer y plant, fel y gallant deimlo eu bod ar wyliau ac yn sicr ddim yn yr ysgol!
Mae’r Clwb Gwyliau ar agor i blant o unrhyw ysgol cyhyd â’u bod o oedran ysgol gynradd. Cafodd y Clwb arolwg gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gan sicrhau llwyddiant fel rhan o’n darpariaeth Clwb Ar Ôl Ysgol.

Ffioedd ac Oriau Agor
8:30yb - 1.00yp: 1:00yp - 6:00yp: 8:30yb - 6:00yp: |
£11.00, brawd neu chwaer £10.00 £11.00, brawd neu chwaer £10.00 £22.00, brawd neu chwaer £20.00 |
Gofynnwn i rieni archebu lle ymlaen llaw ar gyfer pob cyfnod gwyliau. Serch hynny, o dro i dro, mae gennym le sbâr ac felly’n gallu derbyn ceisiadau hwyr am le. Ceisiwn ein gorau i fod mor hyblyg ag y bo modd.