Clwb Ar Ôl Ysgol
Mae Gofal Plant Mes Bach – Little Acorns yn darparu Clwb Ar Ôl Ysgol. Mae’r clwb yn rhedeg o 3.30pm tan 6.00pm pob diwrnod gwaith yn ystod y tymor, ac yn agored i holl blant oedran ysgol gynradd.
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan ein staff hyfforddedig a medrus sy’n cynnig awyrgylch hamddenol a chyfeillgar i’r plant. Tra’u bod yn y clwb, bydd y plant yn cael cyfle i orffwys, darllen, gwneud gwaith cartref, defnyddio’r cyfrifiadur, chwarae y tu allan, neu gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau eraill. Ethos y clwb yn bendant yw bod y plant yn gallu teimlo’n gwbl gyffyrddus tra’u bod yn Mes Bach - Little Acorns. Teimlwn ei bod yn bwysig ar ôl diwrnod o addysg ffurfiol fod y plant yn cael cyfle i ymlacio. Mes Bach – Little Acorns yw eu cartref trwy gydol yr amser y maent yn aros yma, ac rydym yn eu hannog i’w ystyried felly. Mae’r Clwb Ar Ôl Ysgol ar agor i blant o unrhyw ysgol cyhyd â’u bod o oedran ysgol gynradd. Mae’r Clwb wedi llwyddo’n anrhydeddus iawn yn ei arolwg mwyaf diweddar gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Gweler yr adroddiad. |
Ffioedd ac Oriau Agor
3:30yp - 6.00yp: |
£7.00, brawd neu chwaer £6.00 |
Rydym yn gofyn i’r rhieni archebu lle o wythnos i wythnos. Serch hynny, o dro i dro, mae gennym le sbâr ac felly’n gallu derbyn ceisiadau hwyr am le. Ceisiwn ein gorau i fod mor hyblyg ag y bo modd.
Am ddyddiau Hyfforddiant mewn Swydd, gweler y Clwb Gwyliau.
Am ddyddiau Hyfforddiant mewn Swydd, gweler y Clwb Gwyliau.