Amdanon Ni
Mae Mes Bach - Little Acorns yn elusen Gofal Plant gofrestredig (1025440) sy’n darparu gofal plant rhad ond eto o ansawdd uchel. Rydym yn rhedeg meithrinfa gofal ddydd i blant o 2 oed i oedran ysgol, clwb ar ôl ysgol a chlwb gwyliau. Rydym yn darparu ein gwasanaeth o adeilad pwrpasol ar dir Ysgol Gynradd Comins Coch.
Er bod gennym gysylltiadau agos â’r ysgol, rydym yn annibynnol ar yr ysgol. Mae ein gwasanaethau ar agor i bawb, nid yn unig i ddisgyblion neu ddarpar-ddisgyblion yr ysgol. Mae ein staff i gyd wedi derbyn hyfforddiant, yn gymwysedig a phrofiadol. Mae Mes Bach yn cael ei rhedeg o ddydd i ddydd gan reolwr sy’n edrych ar ôl y staff, y plant a’r gwasanaeth. Fel elusen, mae pwyllgor gan Mes Bach - Little Acorns sy’n cwrdd o leiaf unwaith bob hanner tymor. Cymerant gyngor gan y staff, maent yn sicrhau statws cyfreithiol Mes Bach- Little Acorns, yn trefnu weithgareddau codi arian, ac yn gofalu am ddyfodol hir dymor yr elusen. Mae pob rhiant / gofalwr plant sy’n defnyddio Mes Bach- Little Acorns yn dod yn aelod o’r elusen yn awtomatig, yn cael pleidlais ar faterion yn ymwneud â’r elusen ac maent yn gymwys i fod ar y pwyllgor. Rydym yn annog yr holl rieni / ofalwyr i gymryd cymaint o ran ag sy’n bosibl yn y broses o redeg Mes Bach – Little Acorns. |
Gofal Plant Mês Bach - Little Acorns Brongwinau, Comins Coch Aberystwyth SY23 3BQ Ffôn: 01970 626284 Ffôn symudol : 07800 668461 E-bost: enquiries@mêsbach.co.uk |